Love Food Hate Waste (Cymraeg) app for iPhone and iPad
Developer: Waste & Resources Action Programme
First release : 23 Apr 2013
App size: 22.5 Mb
Fe allwch arbed £200 y flwyddyn drwy daflu llai o fwyd i ffwrdd – gadewch i’r app Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff i’ch helpu ar hyd y ffordd.
Fe fydd yr app Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn eich helpu i leihau eich gwastraff bwyd drwy eich darparu â ryseitiau sydd wedi seilio ar y bwyd sydd gennych dros ben yn eich cegin. Cadwch gofnod o’ch siopa o fewn yr app a defnyddiwch i’ch helpu i leihau y bwyd rydych chi’n ei daflu i ffwrdd, drwy goginio prydiau dyfeisgar.
Mae’r app Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff hefyd yn cynnwys set o gynlluniau soffistigedig i’ch helpu chi wneud y mwyaf o’ch cegin ac i leihau gwastraff bwyd. Fe fydd cynllunydd prydiau yn eich helpu i gynllunio beth y fyddwch chi’n ei goginio dros yr wythnosau nesaf ac fe fydd y cynllunydd dogn yn eich helpu i gynllunio faint o fwyd sydd angen arnoch ym mhob rysáit, yn ddibynnol ar faint o bobl y byddwch yn eu coginio ar eu cyfer.
- Darganfyddwch canoedd o ryseitiau gyda cyfarwyddiadau cam wrth gam hawdd.
- Cynllunydd dogn i’ch helpu i goginio y maint cywir o fwyd i’ch teulu.
- Cynllunydd prydiau i’ch helpu i gynllunio eich bwyd hyd at 14 diwrnod o flaen llaw
Rhestr siopa: cadwch olwg o beth sydd yn eich cegin drwy restri pob peth sydd angen arnoch pan yn mynd i siopa, marciwch nhw wrth eich bod yn eu prynu ac adiwch nhw i’ch cwpwrdd, rhewgell neu’ch oergell ar yr app
Wedi rhestri fel un o’r 40 app groser gorau ar TheGrocer.co.uk